Ymunwch nawr a chymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru 2025 – 21 Mawrth-6 Ebrill
Gwahoddir cymunedau ledled Cymru i ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2025 a helpu i godi’r sbwriel sy’n llygru ein cymdogaethau, ein traethau a’n parciau.
Yn 2024, cymerodd 5,000 o wirfoddolwyr ran yn y digwyddiad mewn 700 o ddigwyddiadau ledled Cymru. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gobeithio curo hynny yn 2025, fydd yn golygu mai eleni yw’r gwanwyn glân mwyaf llwyddiannus eto.
Gall teuluoedd, ffrindiau, grwpiau cymunedol, ysgolion, busnesau ac unigolion gymryd rhan rhwng dydd Gwener 21 Mawrth a dydd Sul 6 Ebrill 2025.
Gall cyfranogwyr gofrestru eu digwyddiad eu hunain – fel codi sbwriel ar eu stryd, yn eu parc lleol neu fannau hardd eraill – neu ymuno â digwyddiad glanhau wedi ei drefnu ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o Gwanwyn Glân Prydain Fawr, sy’n cael ei gynnal yn Lloegr gan Keep Britain Tidy ac yn yr Alban gan Keep Scotland Beautiful.
Mae pob darn o sbwriel sy’n cael ei gasglu a’i waredu’n ddiogel yn gwneud gwahaniaeth i ddiogelu’r amgylchedd yng Nghymru, p’un ai eich bod yn casglu un bag neu 100.
Eleni, bydd Gwanwyn Glân Cymru yn dechrau gydag Ymgais i Guro Record y Byd. Mae Cadwch Gymru’n Daclus, a sefydliadau eraill o’r un anian, yn ffurfio partneriaeth gyda’r amgylcheddwr blaenllaw Kate Strong a’r arbenigwr dŵr croyw Dr Numair Masud i dorri Record y Byd Guinness newydd am y Nifer Fwyaf o Gyfranogwyr mewn Digwyddiad Glanhau Afon (mewn Sawl Lleoliad). Bydd yr ymgais yn dechrau mewn lleoliadau ar hyd Afon Taf, yn cynnwys Merthyr Tudful, Pontypridd a Taff Embankment Caerdydd am awr o ganol dydd ar ddydd Gwener 21 Mawrth.
Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus: “Bob blwyddyn rydym yn cael ein hysbrydoli gan y miloedd o bobl ledled Cymru sy’n Cymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru ac yn rhoi o’u hamser i wneud Cymru yn lanach i bawb. Ein neges eleni yw #CarwchEichCartref ac rydym yn gweld hynny’n glir yn ymrwymiad y rheiny sy’n cymryd rhan.
“Mewn byd delfrydol, ni fyddai angen i bobl dreulio eu hamser yn codi sbwriel, ond rydym yn ddiolchgar i bawb sy’n gwneud hynny, gan wneud eu cymunedau a’u mannau hardd lleol yn lanach ac yn fwy diogel i bawb.”
Ychwanegodd: "Mae codi sbwriel yn ffordd wych o ddod ynghyd fel cymuned, bod yn egnïol yn yr awyr agored, a gwella eich iechyd a’ch lles. Does dim gwahaniaeth os nad ydych wedi cymryd rhan o’r blaen – mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar ein gwefan. Mae pob darn o sbwriel sy’n cael ei godi yn gwneud gwahaniaeth a byddem wrth ein bodd pe byddech yn ymuno â ni i ddiogelu a gofalu am yr amgylchedd yng Nghymru.”
Gallwch gofrestru neu chwilio am ddigwyddiad Gwanwyn Glân yn lleol i chi ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus: www.keepwalestidy.cymru