Sesiwn Wybodaeth: Therapi Llaw
Sesiwn Wybodaeth: Therapi Llaw
Dydd Mercher – Hydref 9 2024
Ar-lein dros Teams 11.30 yb – 12.30 yp.
Ymunwch â ni a’r siaradwr gwadd Alison Brown (Therapydd Galwedigaethol sy’n arbenigo mewn Therapi Llaw) wrth i ni edrych ar rai ymarferion a thechnegau a mynd drwy’r ymarferion, a theclynnau / offer a all helpu mewn bywyd bob dydd.
Bydd cyfle ichi ofyn cwestiynau’n ogystal. Mae croeso mawr i bawb!
Ystafell yn agor am 11.20yb, mae'r cyflwyniad yn dechrau am 11.30yb. Byddwch ar amser.
Mae ein sesiynau gwybodaeth ar-lein ar gyfer oedolion ag arthritis, cyflyrau cyhyrysgerbydol neu gyflyrau cysylltiedig e.e. ffibromyalgia, lwpws, cymalwst. Hefyd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr sy'n cefnogi pobl sy'n byw gydag arthritis. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am reoli arthritis a chyflyrau cysylltiedig, clywed gan siaradwyr gwadd a dysgu mwy am y cymorth a ddarperir gan Versus Arthritis mewn ardaloedd lleol.
Cofrestrwch yn Eventbrite: www.Eventbrite.co.uk