Paned a Sgwrs – Gemma Lelliott: Rhywbeth Difyr gyda Rhywun Difyr

Gemma Lelliott yw Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol ac mae'n gweithio i gefnogi Cymdeithasau Teithio Cymunedol yng Nghymru trwy ddarparu gwybodaeth, eiriolaeth, hyfforddiant a chynnal lle i aelodau ddod at ei gilydd.

Mae trafnidiaeth gymunedol yn darparu atebion hyblyg a hygyrch dan arweiniad y gymuned mewn ymateb i anghenion trafnidiaeth leol sydd heb eu diwallu, ac yn aml mae'n cynrychioli'r unig fodd o drafnidiaeth i lawer o bobl fregus ac ynysig, yn aml pobl hŷn neu bobl ag anableddau. Yn aml, dyma hefyd y ffordd fwyaf dibynadwy, gwydn a hygyrch o sicrhau bod modd diwallu'r ystod ehangaf o anghenion trafnidiaeth.

Bydd Gemma yn rhannu rhai prosiectau mae'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi ymgymryd â nhw yn ddiweddar yng Nghymru sydd wir yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall trafnidiaeth wedi'i harwain gan y gymuned ei gael.

Nod Paned a Sgwrs yw dod â phobl at ei gilydd a hwyluso trawsbeillio syniadau fel rhan greiddiol o waith Cyfnewidfa Arfer Da Archwilio Cymru.

Mae'n gyfres o sesiynau hunangynhwysol sydd wedi'u hanelu at hwyluso cysylltiadau rhwng pobl ddiddorol, a rhannu rhywbeth diddorol.

 Ble a phryd 12:00 – 13:00 Dydd Mercher 24 Ebrill 2023 Zoom

Cofrestru

I gofrestru ar gyfer y seminar, llenwch ein ffurflen cadw lle ar-lein [agorir mewn ffenest newydd]. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynrychiolwyr, sy’n dweud wrthych chi sut rydym yn delio gyda’ch data personol fel rhan o’r broses gofrestru.  

Rhennir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 ddiwrnod cyn y digwyddiad. Dylech sicrhau eich bod yn rhoi eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn cadw lle er mwyn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch chi.

Am ragor o wybodaeth ar y digwyddiad, anfonwch e-bost i good.practice@audit.wales

Previous
Previous

Cardiff & Vale Safeguarding Board Spring 2023 Newsletter

Next
Next

Paned a Sgwrs – Gemma Lelliott: Something Interesting with Someone Interesting