Mae Gwobrau Cymunedau Diogelach Cymru 2024 nawr ar agor ar gyfer enwebiadau

Ymgeisiwch nawr

Gall unigolion enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau neu gael eu henwebu gan drydydd parti. Croesawir enwebiadau ar gyfer unrhyw unigolyn, sefydliad neu brosiect yng Nghymru p’un ai a ydynt yn cael eu talu neu ddim yn cael eu talu o’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector – elusennau, grwpiau gwirfoddol a grwpiau cymunedol. 

Gallwch gyflwyno eich enwebiadau drwy lawrlwytho’r ffurflen o’n gwefan a’i dychwelyd i safercommunities@wlga.gov.uk

Bydd cynigion yn cau am 5pm ddydd Gwener 11 Hydref

Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ddydd Iau 28 Tachwedd, yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam. Eleni rydym yn falch iawn o groesawu newyddiadurwr a chyflwynydd y BBC John-Paul Davies i gyflwyno’r gwobrau ochr yn ochr â gwesteion a phwysigion eraill. 

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich enwebiadau a dathlu llwyddiannau wrth gadw ein cymunedau yn ddiogel. 

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Diogelach yn dod i ben yn ddiweddarach y mis hwn, 16 i 20 Medi. Edrychwch ar ein gwefan am fwy o fanylion. 

Cofion cynnes 

Tîm Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru

Previous
Previous

Job Vacancy - Development Director Cardiff and Vale Parents’ Federation

Next
Next

The Wales Safer Communities Awards 2024 are now open for nominations