Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2024 - 21/11/2024

Ydych chi'n gofalu am rywun arall, ffrind neu aelod o'r teulu ag anabledd, salwch, cyflwr iechyd meddwl neu ddibyniaeth, na fyddai'n ymdopi heb eich help?

Mae'n debygol eich bod yn ofalwr di-dâl a bod gennych hawliau ychwanegol fel rhan o'r ymrwymiad ychwanegol hwnnw rydych chi'n ei wneud i gefnogi a gofalu am rywun arall.

Ymunwch â ni i ddysgu am eich hawliau ychwanegol a sut y gallwch gael mynediad at wasanaethau yn lleol i gefnogi'r rheini.

Dydd Iau 21 Tachwedd 2024

1pm i 3pm yng Nghanolfan Hamdden Penarth, CF64 2NS

 

Beth sy'n digwydd?

  • Gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o'ch hawliau fel gofalwr di-dâl

  • Manylion cynigion Seibiant Byr Rhanbarthol Newydd

  • Gwybodaeth, Cyngor a Chyfeirio

  • Lluniaeth

  • Awr Gofalwyr Ifanc 1pm - 2pm

E-bostiwch dinasgofal@caerdydd.gov.uk os ydych yn Hyrwyddwr Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion yng Nghaerdydd neu'r Fro i archebu neu i gael rhagor o fanylion.

 

Am fwy o fanylion neu gefnogaeth i ddod cysylltwch â dinasgofal@caerdydd.gov.uk

Previous
Previous

Carers Rights Day 2024 - 21/11/2024

Next
Next

MHA Community Matters