Deg rheswm pam y gall ein cefnogaeth amhrisiadwy wneud gwahaniaeth i'ch sefydliad cymunedol
Mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS) yn elusen gofrestredig ac yn sefydliad ambarél sy'n cynrychioli buddiannau sefydliadau gwirfoddol a chymunedol ym Mro Morgannwg.
Mae ein cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy i dros 700 o sefydliadau sy’n aelodau a dyma ddeg rheswm i ymuno â ni:
1. Gallwch ddod yn rhan o drydydd sector cyfunol cryfach drwy ymuno â rhwydwaith gwirfoddol mwyaf Bro Morgannwg
2. Mynediad â blaenoriaeth i'n gwasanaethau ymarferol hynod effeithlon e.e. dylunio, argraffu, llungopïo, benthyg offer am ddim
3. Cymorth ac arweiniad am ddim i helpu'ch sefydliad i ddod o hyd i gyllid ac o bryd i'w gilydd rydym yn gweithredu cynlluniau grant ariannu.
4. Rydym yn helpu recriwtio gwirfoddolwyr ar gyfer eich mudiad ac yn rhoi cyngor ar reoli gwirfoddolwyr
5. Mynediad am ddim i ddigwyddiadau trydydd sector
6. Rydym yn cynorthwyo ymddiriedolwyr i redeg grwpiau yn effeithlon ac yn gyfreithlon, yn helpu i sefydlu grwpiau newydd, yn datblygu dogfennau llywodraethu, yn darparu cymorth gyda chofrestru fel elusen ac yn cynorthwyo gyda datblygu polisïau a gweithdrefnau
7. Mae gan 80% o'n haelodau aelodaeth am ddim. Codir tâl blynyddol bychan ar grwpiau sydd ag incwm blynyddol o fwy na £16,000
8. Mynediad at hyfforddiant ar ddisgownt o ansawdd uchel a gynhelir gan arbenigwyr ar bynciau amrywiol
9. Hyrwyddiad am ddim trwy ein sianeli cyhoeddusrwydd niferus
10. Mae eich sefydliad yn bwysig i ni ac rydyn ni yma i’ch cefnogi chi!
I gael rhagor o fanylion a ffurflen gais am aelodaeth, cysylltwch â Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg (GVS), e-bost: enquiries@gvs.wales gwefan: www.gvs.wales Elusen Gofrestredig Rhif 1163193