Cytuno ar les canolfan gymunedol newydd ar gyfer Eglwys Sant Paul ym Mhenarth

Mae’n bleser gan Gymdeithas Tai Newydd gyhoeddi cytundeb les newydd gyda Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg (GVS) ar gyfer y ganolfan gymunedol newydd yn Eglwys Sant Paul ym Mhenarth.

Mae Newydd yn darparu gofod cymunedol ar gyfer pobl leol, mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, fel rhan o ddatblygiad gwerth £3 miliwn ac mae hefyd yn darparu fflatiau am rent fforddiadwy i bobl sy’n gweithio ac yn byw yn yr ardal.

Er mwyn helpu i gyfoethogi ac ymgysylltu â chymunedau lleol yn yr ardal, rhyddhaodd Cyngor Bro Morgannwg gyllid o £400,000 mas o rwymedigaeth gynllunio adran 106 ailddatblygiad ystâd Billybanks, i gefnogi Newydd i ddarparu’r cyfleuster cymunedol.

Gweithiodd Newydd gyda thrigolion lleol, y Cyngor ac â sefydliadau cymunedol i ailddatblygu’r safle, gan sicrhau bod ffasâd yr eglwys bresennol yn cael ei gadw. Cyflogodd Newydd y contractwyr WK Plasterers Ltd i adeiladu’r ganolfan gymunedol amlbwrpas hon a 14 o fflatiau un a dwy ystafell wely.

Meddai’r Cynghorydd Lis Burnett, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, “Y cyfleuster cymunedol fydd canolbwynt y datblygiad hwn, sy’n darparu cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen yn yr ardal. Yn ogystal â darparu gofod i bobl leol gynnal partïon a digwyddiadau, bydd y ddwy neuadd amlbwrpas, swyddfeydd, cyfleusterau cegin a thoiledau, yn darparu lle delfrydol i elusennau a grwpiau dielw ddarparu gweithgareddau a chefnogaeth i drigolion Penarth. Mae’r Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Newydd drwy gydol y gwaith o ddylunio ac adeiladu’r cynllun, ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn dwyn ffrwyth.”

Meddai Rachel Connor, Prif Swyddog Gweithredol Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg, “Mae GVS yn falch iawn o fod yn ymgymryd â’r les ar gyfer Canolfan Gymunedol Sant Paul yn Arcot Street, Penarth. Mae’n ddatblygiad gwych a bydd yr adeilad yn gaffaeliad aruthrol i’r ardal leol. Mae gennym brofiad o redeg canolfannau cymunedol ac mae gennym lawer o gynlluniau ar gyfer defnyddio’r adeilad, ond byddwn yn chwilio am fewnbwn a chefnogaeth leol i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaethau a’r gweithgareddau mae’r gymuned eu heisiau a’u hangen.”

Clive Curtis, Rheolwr Gweithredol GVS, fydd yn gyfrifol am y ganolfan newydd. Meddai, “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r gymuned leol i wneud Canolfan Gymunedol Sant Paul yn llwyddiant. Bydd gweithio mewn partneriaeth â grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol hefyd yn allweddol i sicrhau bod Canolfan Gymunedol Sant Paul wedi’i gwreiddio’n dda yn y gymuned, ac yn dod yn ased gwirioneddol i bawb.”

Previous
Previous

Play - Have Your Say – A Survey for children & young people

Next
Next

New community centre lease agreed for St Paul’s in Penarth