Archebwch le yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol GVS ar-lein i glywed am ein cyflawniadau, gwrando ar siaradwyr uchel eu proffil ac i'n cefnogi ni!

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol GVS eleni ar-lein ddydd Mercher 3 Tachwedd rhwng 10am a hanner dydd. Ymhlith ein siaradwyr a fydd yn cyflwyno mae Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Debra Allcock Tyler, awdur a Phrif Weithredwr y Directory of Social Change.

Bydd y cyfarfod cyffredinol blynyddol hefyd yn gyfle da i glywed sut mae GVS wedi perfformio dros y 12 mis diwethaf. Byddwn hefyd yn ethol aelodau newydd i'n Bwrdd Ymddiriedolwyr ac yn cyflwyno ein Cyfrifon Blynyddol.

Gan y bydd y digwyddiad yn "rithwir", rydym yn gobeithio y bydd cymaint ohonoch â phosibl yn gallu ymuno â ni. Cofrestrwch am ddim ar https://www.eventbrite.com/e/gvs-annual-general-meeting-tickets-179701119887 ac anfonwch y ddolen ymlaen at unrhyw gydweithwyr neu aelodau pwyllgor eraill.

Edrychwn ymlaen at eich gweld ar 3 Tachwedd!

Previous
Previous

Facemasks available for community and charitable organisations

Next
Next

Newly Refurbished Rainbow Ward Opens at Children's Hospital for Wales