Vale 2030 - the Council's new 6 year Corporate Plan / Y Fro 2030 - Cynllun Corfforaethol 5 mlynedd newydd y Cyngor
We are pleased to inform you that Vale 2030 - the Council’s new 5-year Corporate Plan, has now been launched.
This represents a new and exciting chapter for the Council, as we adapt and improve, working closely with our communities and partners to deliver an ambitious programme of work. Vale 2030 is a plan for the future, and we have considered how the Council needs to change and adapt to meet our ambitions and deliver for the citizens of the Vale. This is an opportunity for us to continue our work to build a Council for the future that we can all be proud of, and in order to succeed we reaffirm our commitment to working in partnership with you and a wide range of organisations and communities.
The Council’s values are open, together, ambitious and proud and we continue to be committed to ensuring that these are reflected in how we work with others. We want to work closely with our communities to create excellent and productive relationships with all our partners, and in Vale 2030 we set out what organisations can expect when working with us. Through transparency and accountability, we are aiming to unlock the potential of the Vale through our community partnerships to deliver better outcomes for all.
Vale 2030 sets out how we will achieve our vision of Strong communities with a bright future and in creating this new plan, we have listened to our residents, partners and others, looked at how we're performing, and recognised areas where we need to improve.
We have set five Well-being Objectives to achieve our vision:
· Creating Great Places to Live, Work and Visit
· Respecting and Celebrating the Environment
· Giving Everyone a Good Start in Life
· Supporting and Protecting Those Who Need Us
· Being the Best Council We Can Be
Each of these Objectives include the ambitions we want to see fulfilled by 2030 and the actions that will make this happen. A strong focus on partnership working, and harnessing community power will create a Vale that improves the well-being of current and future generations.
Thank you for all your support in developing this plan and it is through continued partnership with your organisations that we will deliver on our commitments, ensuring we maximise the potential of the Vale.
We look forward to working with you all to deliver Vale 2030.
Councillor Lis Burnett
Leader
Rob Thomas
Chief Executive
Mae'n bleser gennym roi gwybod i chi fod Y Fro 2030 – Cynllun Corfforaethol 5 mlynedd newydd y Cyngor, bellach wedi'i lansio.
Mae hyn yn bennod newydd a chyffrous i'r Cyngor, wrth i ni addasu a gwella, gan weithio'n agos gyda'n cymunedau a'n partneriaid i gyflwyno rhaglen waith uchelgeisiol. Mae Y Fro 2030 yn gynllun ar gyfer y dyfodol, ac rydym wedi ystyried sut mae angen i'r Cyngor newid ac addasu er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau a darparu ar gyfer ddinasyddion y Fro. Mae hwn yn gyfle i ni barhau â'n gwaith i adeiladu Cyngor ar gyfer y dyfodol y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono, ac er mwyn llwyddo rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â chi ac ystod eang o sefydliadau a chymunedau.
Gwerthoedd y Cyngor yw bod yn agored, gyda'n gilydd, yn uchelgeisiol ac yn falch, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y ffordd rydym yn gweithio gydag eraill. Rydym am weithio'n agos gyda'n cymunedau i greu perthnasoedd rhagorol a chynhyrchiol gyda phob un o’n partneriaid, ac yn Y Fro 2030 rydym yn nodi'r hyn y gall sefydliadau ei ddisgwyl wrth weithio gyda ni. Gyda thryloywder ac atebolrwydd, ein nod yw datgloi potensial y Fro trwy ein partneriaethau cymunedol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i bawb.
Mae Y Fro 2030 yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth o feithrin cymunedau cryf â dyfodol disglair, ac wrth greu'r cynllun newydd hwn rydym wedi gwrando ar ein preswylwyr, ein partneriaid a phobl eraill, wedi ystyried sut rydym yn perfformio, ac wedi cydnabod meysydd lle mae angen i ni wella.
Rydym wedi gosod pum Amcan Lles i gyflawni ein gweledigaeth:
· Creu Lleoedd Gwych i Drigolion, Gweithwyr ac Ymwelwyr
· Parchu a Dathlu'r Amgylchedd
· Rhoi Dechrau Da mewn Bywyd i Bawb
· Cefnogi ac Amddiffyn y Rhai sydd Ein Hangen Ni
· Bod y Cyngor Gorau y Gallwn Fod
Mae pob un o'r Amcanion hyn yn cynnwys yr uchelgeisiau yr ydym am eu cyflawni erbyn 2030 a'r camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau hynny. Bydd ffocws mawr ar weithio mewn partneriaeth a harneisio pŵer y gymuned yn creu Bro sy'n gwella lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Diolch i chi am eich holl gefnogaeth wrth ddatblygu'r cynllun hwn. Trwy bartneriaeth barhaus â'ch sefydliadau chi byddwn yn cyflawni ein hymrwymiadau, gan sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o botensial y Fro.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyd i gyflawni Y Fro 2030.
Y Cynghorydd Lis Burnett Rob Thomas
Arweinydd Prif Weithredwr