Swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol (ALl) – Gwanwyn 2023

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth y rhai yr hoffent gael eu hystyried ar gyfer y swyddi presennol i lywodraethwyr ysgol yr Awdurdod Lleol (ALl).  Bydd y Panel Penodi Llywodraethwyr ALl yn ystyried y ceisiadau ar sail y cyfraniad y mae modd i ymgeiswyr ei wneud i ysgol o ran eu sgiliau a'u profiad. 

Mae'r ffactorau a ystyrir yn cynnwys: - 

  • Profiad fel llywodraethwr ysgol effeithiol, a fesurir yn ôl y ffaith eu bod yn meddu ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol gan gynnwys sgiliau sy'n cyfateb gyda sialensiau'r ysgol unigol.

  • Y cyfraniad a wnaethpwyd yn ystod y cyfnod o gyflawni'r rôl a'r ffaith eu bod wedi mynychu'n rheolaidd.

  • Dymuniad gwirioneddol i helpu i wella safonau addysg yn yr ysgol mewn partneriaeth gyda'r pennaeth a gweddill y corff llywodraethu.

  • Gwybodaeth am y gymuned y mae’r ysgol wedi'i lleoli ynddi, a diddordeb ynddi.

  • Gwybodaeth am faterion addysg modern.

  • Ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd llawn y corff lywodraethu yn rheolaidd, yn ogystal â chyfarfodydd unrhyw bwyllgorau'r corff llywodraethu y byddant yn cael eu hethol i fod yn aelodau ohonynt.

  • Ymrwymiad i fynychu cyrsiau hyfforddi i lywodraethwyr er mwyn diweddaru eu sgiliau a'u gwybodaeth, er mwyn gwella eu gallu eu heffeithiolrwydd fel llywodraethwr. 

Mae swyddi ar gael i lywodraethwyr ar hyn o bryd yn yr ysgolion canlynol: -  

1.        Ysgol Gynradd Cogan                         

2.        Ysgol Gynradd Colcot

3.        Ysgol Gyfun y Bont-faen                     

4.        Ysgol Gynradd Dinas Powys              

5.        Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Gwenfo       

6.        Ysgol Gynradd Holton

7.        Ysgol Gynradd Llangan                       

8.        Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llansanwyr 

9.        Ysgol Gynradd Romilly                       

10.      Ysgol Gynradd South Point

11.      Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Saint Andras           

12.      Ysgol Gynradd Santes Helen

13.      Ysgol Gynradd Illtud Sant

14.      Ysgol Gynradd Sant Joseff

15.      Ysgol Gynradd Sili

16.      Ysgol Gynradd Fictoria

17.      Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Y Wig a Marcroes

18.      Y Bont Faen Primary

19.      Ysgol Iolo Morganwg

20.      Ysgol Pen y Garth 

 Sylwer na fydd yr Ysgolion Cymraeg yn cynnal eu holl gyfarfodydd yn Gymraeg a phan fydd hynny’n digwydd, bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael. 

Os ydych yn teimlo y gallech fodloni’r meini prawf uchod ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael eich ystyried ar gyfer swydd llywodraethwr ALl yn un o’r ysgolion uchod, cysylltwch â Jeremy Morgan trwy anfon e-bost at governors@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 709108 (llinell uniongyrchol) a gofynnwch am becyn ymgeisio.   

Dydd Iau 2 Mawrth 2023 erbyn canol dydd fan bellaf yw’r dyddiad cau ar gyfer derbyn pecynnau ymgeisio wedi’u cwblhau.

Previous
Previous

Age Connects Cardiff and The Vale currently has three job vacancies

Next
Next

Cardiff and Vale University Health Board-led study awarded £1.8m in funding