Rydyn ni eisiau gwybod eich barn ar wasanaethau gofal a chymorth yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
Let’s talk! Rydyn ni eisiau gwybod eich barn ar wasanaethau gofal a chymorth yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Fel gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, rydym yn gwerthfawrogi eich profiad. Beth sy’n cynnal iechyd a lles pobl yn eich barn chi? Pa wasanaethau sy’n gweithio’n dda, a pha wasanaethau mae angen eu gwella? Sut mae COVID-19 wedi newid y gwasanaethau a ddarperir gennych, a beth sydd ei angen ar eich defnyddwyr gwasanaeth a’ch cleifion yn ystod y misoedd a blynyddoedd i ddod?
Bydd eich ymatebion yn helpu i lunio Asesiad Anghenion y Boblogaeth 2022 ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg. Bydd hyn yn arwain y gwasanaethau a ddarperir gennym nawr, ac yn y dyfodol.
Cwblhewch yr arolwg yma:
Cymraeg: https://cvihsc.co.uk/cy/aab/
Saesneg: https://cvihsc.co.uk/pna/
Caiff yr ymatebwyr gyfle i ennill taleb Love2Shop werth £50.
Byddem yn ddiolchgar am eich help i ddosbarthu'r arolwg drwy eich rhwydweithiau proffesiynol.
Mae gennym hefyd arolwg ar gyfer y cyhoedd, gan gynnwys arolwg penodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Byddai’n dda gennym pe rhannech chi’r ddolen gyda’ch defnyddwyr gwasanaeth, eich cleientiaid neu’ch cleifion. Efallai yr hoffech gopïo a gludo'r paragraff isod yn eich cyfathrebiadau gyda nhw i hysbysebu'r arolwg hwn.
Cynhelir yr arolygon gan Gyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (y GIG lleol) a’r Trydydd Sector (elusennau, sefydliadau gwirfoddoli a sefydliadau cymunedol).