Rhannwch eich profiadau a dylanwadu ar y camau y byddaf yn eu cymryd fel Comisiynydd Pobl Hŷn

Neges i bobl hŷn gan Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru…

Mae fy ngwaith yn cael ei lywio gan leisiau a phrofiadau pobl hŷn – eich lleisiau a’ch profiadau chi. Dyna pam fy mod i eisiau clywed gennych chi am unrhyw faterion sy’n golygu bod heneiddio yng Nghymru yn anoddach, yn ogystal â’r newidiadau a’r gwelliannau yr hoffech eu gweld.

Byddwn yn ddiolchgar iawn petaech yn rhannu eich barn a’ch syniadau drwy lenwi holiadur byr (wedi’i atodi) – ni ddylai hyn gymryd mwy nag ychydig funudau. Neu, os byddai’n well gennych chi siarad am eich profiadau gydag aelod o’r tîm, ffoniwch 03442 640 670. Hefyd, gallwch chi lenwi'r arolwg ar-lein yn www.olderpeople.wales/haveyoursay

Gallwch chi dynnu sylw at rywbeth sy’n eich poeni neu yn peri pryder i chi, neu rannu enghraifft o rywbeth sy’n gweithio’n dda ac sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol y gellid ei gyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru.

Bydd unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei rhannu yn werthfawr iawn wrth i mi ddatblygu fy strategaeth a’m rhaglen waith a gweithredu gyda fy nhîm i drawsnewid polisïau ac arferion mewn amrywiaeth o feysydd allweddol.

Cysylltwch â ni nawr a pheidiwch â cholli eich cyfle i leisio eich barn.

Diolch yn fawr am eich help!

Previous
Previous

Join the crew: Challenge Wales Seeks Handy Volunteers To Keep Their Vessel Shipshape

Next
Next

Heritage Fund - Nature Networks Fund (round four)