Prosiect Ditectifs Deiet Dolffiniaid yn Derbyn Cyllid Rhwydweithiau Natur!

Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (YNDGC) gyhoeddi ei bod wedi cael cymorth ariannol gan Rownd 3 Cronfa Rhwydweithiau Natur (NNF) Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect unigryw - Ditectifs Deiet Dolffiniaid: Datgelu Deiet Dolffiniaid ac Ymgysylltu â Chymunedau ar gyfer Cadwraeth yn y DU.

Bydd y grant o £249,306 sydd wedi’i ddyfarnu yn cefnogi cyfleoedd ymchwil pellach i wella ymchwil cadwraeth forol bwysig YNDGC i ddolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion tan fis Mawrth 2026. Bydd YNDGC yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd i gyflwyno’r prosiect cyffrous ac arloesol yma.          

Bydd ein tîm cadwraeth forol ni sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion yng Ngheinwydd, Ceredigion yn casglu samplau o ysgarthion dolffiniaid yn ystod arolygon ymchwil, a bydd DNA yn cael ei dynnu o’r rhain a bydd ‘metabarcodio’ genetig yn cael ei wneud gan ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth. Bydd hyn yn datgelu pa rywogaethau mae'r dolffiniaid yn eu bwyta ar adegau amrywiol ac mewn lleoliadau amrywiol.

Dywedodd Dr Sarah Perry, Rheolwr Cadwraeth ac Ymchwil Forol yn YNDGC, “Rydyn ni wrth ein bodd yn dechrau ar y prosiect arloesol yma, gan ddefnyddio DNA amgylcheddol (eDNA) sy’n torri tir newydd a thechnegau genetig i ddatgelu dirgelion ecoleg dolffiniaid trwyn potel ym Mae Ceredigion. Mae’r prosiect yn cynnwys maes ymchwil rydyn ni wedi bod eisiau dechrau arno yn ystod y degawd diwethaf ac rydyn ni’n gyffrous ei fod wedi dwyn ffrwyth ar adeg pan mae’n bwysicach fyth ein bod ni’n adeiladu ar ein gwybodaeth am y rhywogaethau yn y dyfroedd o’n cwmpas. ni. Bydd ein ffocws ni ar ddeall deiet dolffiniaid, deinameg y boblogaeth a’r rhyngweithio â’r rhywogaethau sy’n ysglyfaeth iddyn nhw drwy ddulliau ymchwil arloesol nid yn unig yn sail i strategaethau cadwraeth hanfodol ond hefyd yn cynnwys y gymuned. Mae’r prosiect yma’n ymdrech gydweithredol sy’n uno gwyddoniaeth a’r gymuned ar gyfer dyfodol cynaliadwy.”

Bydd DNA o'r samplau o ysgarthion yn cael ei ddefnyddio hefyd i gynhyrchu proffiliau unigol ar gyfer pob dolffin. Bydd y tîm yn edrych ar y proffiliau hyn i ddarganfod rhyw y dolffiniaid, i ymchwilio i berthnasoedd teuluol, maint y boblogaeth, potensial magu a phatrymau symud. Bydd tîm y prosiect yn paru'r proffiliau unigryw hyn â chofnodion adnabod lluniau dolffiniaid trwyn potel unigol.

Bydd samplau dŵr yn cael eu casglu ar amseroedd amrywiol ac o leoliadau amrywiol ledled Bae Ceredigion a byddwn yn defnyddio dulliau DNA amgylcheddol (eDNA) i ddeall argaeledd y rhywogaethau ysglyfaeth. I ddilysu ein canfyddiadau eDNA bydd partneriaid y prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd yn defnyddio Systemau Fideo Tanddwr Gydag Abwyd (BRUVS) i gofnodi presenoldeb rhywogaethau morol yn yr ardal ar y pryd.

Dywedodd Dr David Wilcockson o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth, “Mae ein tîm ni’n falch iawn o fod yn bartner yn y prosiect ymchwil newydd a chyffrous yma. Mae ein harbenigedd genetig moleciwlaidd a bioleg y môr ni’n cydblethu â gwaith monitro a chadwraeth ardderchog Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a dylai ddatgelu rhai cyfrinachau hirhoedlog ym maes bioleg dolffiniaid. Yr hyn sy'n wirioneddol gyffrous i ni, ar wahân i ddarganfod beth mae dolffiniaid yn ei fwyta a'u hymddygiad, yw'r ffaith ein bod ni’n cynnwys y cyhoedd yn y gwaith yma. Nhw yw’r ‘ditectifs dolffiniaid’ a gobeithio y bydd hyn yn darparu llwybr y gallant ei ddefnyddio i deimlo’n fwy cysylltiedig â’u hamgylchedd lleol ac i annog gweithgareddau cadwraeth y tu hwnt i’r prosiect.”

Dywedodd Dr Neil Cook o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd, “Mae’n hynod gyffrous gallu cyfrannu at y prosiect hollbwysig yma. Mae BRUVS yn rhoi mynediad i wely’r môr i ni – rydyn ni’n defnyddio abwyd i ddenu rhywogaethau at ein camerâu, gan roi cyfle i ni wneud amcangyfrifon helaethrwydd a gweld sut mae’r gymuned forol yn newid ar draws gofod ac amser. Bydd yr wybodaeth yma’n helpu i gwblhau'r darlun o'r DNA a gwaith genetig. Mae BRUVS hefyd yn ffordd wych o gyflwyno bywyd morol y DU i’r cyhoedd, gyda’n fideos ni’n cofnodi popeth o frwydrau crancod heglog i synau dolffiniaid, congrod a siarcod dyfnforol.”

Bydd tîm y prosiect yn trefnu cyfres o ddyddiau gwyddoniaeth, gan greu cynnwys digidol unigryw i ymgysylltu’n weithredol ag aelodau o’r gymuned leol a dod â thechnegau gwyddonol y prosiect yn fyw. Cadwch lygad ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion am ddiweddariadau am ddyddiau ymgysylltu’r prosiect.

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a’i gweinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Previous
Previous

National Office for Care and Support formally launched

Next
Next

Dolphin Diet Detectives Project Receives Nature Networks Funding!