Mae Anabledd Dysgu Cymru yn chwilio am Swyddog Polisi a Chyfathrebiadau newydd
Oriau a lleoliad: 30 awr yr wythnos y gellir eu gweithio'n hyblyg dros yr wythnos. Byddwch yn gweithio yn ein swyddfa yn Llanisien, Caerdydd a gallwch hefyd weithio rhai o'ch oriau o'ch cartref. Fodd bynnag, os na allwch deithio i'r swyddfa, efallai y gallwch ofyn am fod yn weithiwr cartref.
Cyflog: Cyflog blynyddol gwirioneddol o £23,837 yn codi drwy gynyddiadau blynyddol i £26,191 yn seiliedig ar 30 awr yr wythnos (cyfwerth ag amser llawn £29,399 yn codi i £32,303).
Y rôl: Bydd y swydd hon yn gweithio ar draws ein holl brosiectau ac yn helpu i gyfleu ein barn ar bolisi anabledd dysgu drwy ymchwilio a chynhyrchu ymatebion polisi, datganiadau i'r wasg a chynnwys cyfryngau cymdeithasol. Byddwch yn deall y rhwystrau a'r heriau sy'n wynebu pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth a bod gennych wybodaeth ymarferol am bolisïau perthnasol Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Dyddiad cau: Dydd Mercher 8 Ionawr 2025
Dyddiad cyfweliad: 22 Ionawr 2025
Gobeithiwn y bydd gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n tîm cyfeillgar, cefnogol ac angerddol. I ddarganfod rhagor am yr hyn y gallwch ddisgwyl gennym, a sut i wneud cais ewch i'n gwefan.