Don't miss our virtual event on Oct 7th! Join Running Community Dog Walks for expert insights into dog behaviour and connections

Saturday 7th October 2023

Online via zoom

12:00 – 17:00

Running Community Dog Walks

How to read and respond to dog and human behaviour and create brave spaces for connection.

·       Do you identify as a member of the LGBTQIA+ community? 

·       Do you love dogs and want to learn more about them? 

·       Are you friendly and approachable and welcoming to members of the LGBTQIA+ community? 

·        Would you like to learn more about dog behaviour?

Prepare to be enchanted as we introduce our esteemed Dog Doctor, Hannah Molloy, a distinguished Animal Behaviourist with a treasure trove of expertise, to our highly anticipated virtual event. Brace yourself for an expedition into the realm of dog behaviour and communication, guided by none other than the seasoned professional herself – Hannah!  We're thrilled to introduce Hannah, a certified Animal Behaviourist with an impressive track record, to our event. Her experience training over 10,000 dogs in a decade, appearances on Channel 4's Puppy School, and recognition in diverse circles like zoos and professional associations showcase her expertise. As the author of What's My Dog Thinking?, her global impact is undeniable. Her role as an expert witness in Crown Prosecution for cases involving dangerous dogs establishes her as a beacon guiding policies that bridge the worlds of canine and human behaviour. Her captivating speaking style promises an unforgettable experience, delivering knowledge with unmatched passion.

Rainbow Pooch Pride brings the LGBTQ+ community together through their shared love of dogs, organising dog-friendly and dog-themed in person and online events. This event is tailor-made for our community, but especially for individuals thinking of joining our social walks and rambles, as well as those intrigued by the prospect of becoming a volunteer. Our work thrives on the support of generous funding and donations, making events like this possible. As a gesture of accessibility, we offer this event for free, while extending an invitation for conscious donations of £3, £5, £7, or £10 – a contribution that resonates with your capacity.

Register now and be part of this celebration of dogs, connection, and community.

https://www.eventbrite.co.uk/e/705331815447?aff=oddtdtcreator

 

Dydd Sadwrn 7 Hydref 2023

Ar-lein drwy Zoom

12:00 – 17:00

Cynnal Teithiau Cerdded Cymunedol gyda Chŵn

Sut i ddeall ymddygiad cŵn a phobl, ac ymateb iddo, a chreu gofodau glew i ymgysylltu.

·       Ydych chi'n uniaethu’n aelod o'r gymuned LHDTCRhA+?

·       Ydych chi'n caru cŵn ac eisiau dysgu mwy amdanyn nhw?

·       Ydych chi'n gyfeillgar, yn agos atoch ac yn groesawgar i aelodau o'r gymuned LHDTCRhA+?

·       Hoffech chi ddysgu mwy am ymddygiad cŵn?

Cewch eich cyfareddu gan ein Meddyg Cŵn, Hannah Molloy, arbenigwraig ar ymddygiad anifeiliaid sydd â gwybodaeth hynod helaeth am gŵn, yn ein digwyddiad rhithiol hir ddisgwyliedig. Cewch fewnwelediad gwych i ymddygiad a chyfathrebu cŵn, dan arweiniad Hannah, un o’r prif awdurdodau yn y maes hynod hwn! Rydyn ni wir wrth ein bodd yn croesawu Hannah, Ymddygiadydd Anifeiliaid ardystiedig, i'n digwyddiad. Mae ei phrofiad yn cynnwys hyfforddi dros 10,000 o gŵn dros gyfnod o ddegawd, ymddangosiadau ar Puppy School Channel 4, a gwaith arbenigol amrywiol gyda sefydliadau fel sŵs a chymdeithasau proffesiynol. Fel awdur What's My Dog Thinking?, mae wedi cael effaith ryngwladol. Mae ei gwaith fel tyst arbenigol i Wasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer achosion yn  ymwneud â chŵn peryglus wedi ei sefydlu fel ffynhonnell ddisglair ar gyfer polisïau’n rhychwantu ymddygiad cŵn a phobl. Mae ei harddull siarad gyfareddol yn golygu ei bod wastad yn bleser gwrando arni, ac mae ei hangerdd yr un mor ddwfn â’i gwybodaeth.  

Mae Rainbow Pooch Pride yn dod â'r gymuned LHDTC+ at ei gilydd drwy eu cariad cyffredin at gŵn, gan drefnu digwyddiadau sy'n gyfeillgar i gŵn ac ar thema cŵn wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i deilwra ar gyfer ein cymuned, ond yn enwedig i unigolion sy'n ystyried ymuno â'n teithiau cerdded cymdeithasol a'n crwydradau, yn ogystal â'r rhai y mae’r posibilrwydd o ddod yn wirfoddolwr yn apelio atyn nhw. Mae ein gwaith yn ffynnu diolch i gefnogaeth ariannol a rhoddion hael, sy’n gwneud digwyddiadau fel hyn yn bosibl. Er mwyn bod mor hygyrch â phosibl, rydyn ni’n cynnig y digwyddiad hwn am ddim, tra'n estyn gwahoddiad am roddion ymwybodol o £3, £5, £7, neu £10 – yn ôl eich gallu i dalu.

Cofrestrwch nawr a dewch i fod yn rhan o'r dathliad hwn o gŵn, ymgysylltiad a’r gymuned.

 

https://www.eventbrite.co.uk/e/705331815447?aff=oddtdtcreator

 

 

Previous
Previous

NHS Bursary extended in Wales with access to full maintenance loan amid cost of living crisis

Next
Next

The 2023 Golden Pass programme is now OPEN!