Cyfle gyda thâl i ddarganfod datrysiadau digidol i helpu'ch sefydliad trydydd sector
Mae ProMo Cymru yn falch iawn i gyhoeddi lansiad Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol arloesol - siwrne chwe mis i rymuso a chwyldroi gwasanaethau pum sefydliad trydydd sector yng Nghymru.
Yn cychwyn fis Ebrill 2024, bydd y rhaglen yn cyfarparu sefydliadau gyda'r offer, gwybodaeth a'r adnoddau i gychwyn trawsnewidiad digidol llwyddiannus. Mae hwn yn rhaglen am ddim, gyda thâl am gymryd rhan.
Uchafbwyntiau'r Rhaglen
· Cynllunio a datblygu gwasanaeth digidol newydd (neu ailfeddwl gwasanaeth presennol)
· Dim rhagofynion
· Tâl o £4,800 i bob sefydliad
· Am ddim i fynychu
· Hunan astudio a gweithio
· Hyfforddiant, mentora ac arweiniad
· Gweminarau a Chyfarfodydd Mentora
· Mwyafrif o'r rhaglen yn cael ei chynnal yn rhithiol
· Digwyddiad preswyl deuddydd
· Digwyddiad dathlu mewn person i gloi
Y nod yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i gynllunio gwasanaethau digidol hygyrch sydd yn canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sydd yn arwain at sicrhau canlyniadau gwell i gymunedau yng Nghymru.
Y Broses Ymgeisio
Dim ond lle i pum sefydliad sydd ar y rhaglen, gyda phob un yn derbyn tâl £4,800 ynghyd â chostau teithio. Felly, bydd yna broses ymgeisio a dewis.
Rydym yn chwilio am amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector ledled Cymru i gymryd rhan yn y siwrne drawsnewidiol yma. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dangos eu bod wedi ymrwymo i ddefnyddio'r cwrs yma i wneud newid sydd yn cael effaith.
Dyddiad cau ceisiadau: Dydd Llun, 25fed Mawrth, am 11:59yh.
Gwybodaeth bellach a dolen i wneud cais yma. - Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol i'r Trydydd Sector (notion.site)
Ariannir y prosiect yma trwy raglen Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector ProMo Cymru, mewn partneriaeth â CGGC, prosiect ariannir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gyda'r bwriad o gefnogi'r Trydydd Sector yng Nghymru gyda digidol.