Cominwyr, gwartheg a pheiriannau torri gwair robotig yn ymuno i achub un o rywogaethau prinnaf Cymru

Mae cadwraethwyr, gwartheg a pheiriant torri gwair a reolir o bell yn helpu i achub un o anifeiliaid Cymru sydd fwyaf mewn perygl.

Mae elusen flaenllaw Cadwraeth Gloÿnnod Byw wedi defnyddio'r peiriannau brefu  a thorri gwair i ddiogelu glöyn byw’r fritheg frown ar y safle olaf hysbys lle mae i’w gael yng Nghymru.

Mae’r tîm hefyd wedi recriwtio cominwyr i bori eu gwartheg yn Old Castle Down ym Mro Morgannwg am y tro cyntaf ers 60 mlynedd, hyn i gyd er mwyn creu mwy o gynefin i’r rhywogaethau prin a hardd.

Mae’r prosiect yn adeiladu ar fwy nag ugain mlynedd o waith gan wirfoddolwyr Cadwraeth Gloÿnnod Byw, sydd wedi bod yn cynnal a chadw cynefin y fritheg frown ar y safle hwn yn ddiwyd ers 1997, ac sy’n gyfrifol yn ôl pob tebyg am atal y rhywogaeth rhag diflannu yng Nghymru.

Yr haf hwn, cyrhaeddodd y gwirfoddolwyr hynny rowndiau terfynol Springwatch's Unsung Hero Awards y BBC, gan anrhydeddu degawdau o waith ganddynt, sy’n ailgychwyn bellach ar ffurf robotig.

Dywedodd Swyddog Prosiect Cadwraeth Glöynnod Byw Dot Williams: “Mae hwn yn brosiect mor wych i Gymru. Yn ogystal â bod yn löyn byw hardd, mae’r fritheg frown yn eicon o’r hyn y gall cadwraeth wych Cymru ei gyflawni. Mae’r cyllid ar gyfer y prosiect hwn yn gwobrwyo degawdau o waith caled gan ein gwirfoddolwyr anhygoel, a gallwn nawr fynd â’r gadwraeth ar y safle hwn i lefel hollol newydd, sy’n gyffrous iawn."

Roedd y fritheg frown, sydd â lliw oren, yn arfer bod yn eang ar draws Cymru a Lloegr, ond mae ei dosbarthiad wedi dirywio 87 y cant ers y 1970au, sef ffigur difethol, yn bennaf oherwydd dinistrio ei gynefin, datblygiadau, a newidiadau mewn arferion traddodiadol o reoli tir.Gellir dod o hyd iddi bellach mewn pum safle yn unig yn Lloegr ac un yng Nghymru.

Mae angen fioledau a rhedyn ar y glöynnod byw er mwyn goroesi, ond gall y rhedyn fod yn drech na'r blodau bychain cain os na chânt eu rheoli.

Mae gwirfoddolwyr Cadwraeth Glöynnod Byw lleol, dan arweiniad Richard Smith, wedi bod yn cynnal lle ar gyfer fioledau yn Old Castle Down ers 1997 ac wedi cael canlyniadau gwych: canfu 1.5 glöyn byw bob awr mewn arolwg ym 1999, ac erbyn 2019 roedd hynny wedi cynyddu i 17.4.

Dywedodd Alan Sumnall, Pennaeth Cadwraeth yr elusen yng Nghymru: "Pe na byddai ein gwirfoddolwyr allweddol wedi bod yn gwneud y gwaith gwych hwn, byddai'r rhywogaeth hon wedi diflannu yng Nghymru."

Mae llawer o’r gwaith dros y ddau ddegawd wedi bod yn waith dyrnu prysgwydd a phrysgoedio trylwyr – gan ddal yn ôl y llanw o lystyfiant a allai foddi'r fioledau bychain – ac mae wedi cynyddu’r arwynebedd cynefin bridio addas o ddwy ran o dair.

Bellach mae Cadwraeth Glöynnod Byw wedi derbyn £63,000 trwy bartneriaeth adfer rhywogaethau Natur Am Byth. Cefnogir y rhaglen pedair blynedd uchelgeisiol hon gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, Cyfoeth Naturiol Cymru, a chyllidwyr hael eraill.

Mae'r elusen wedi cyflogi y swyddogion penodedig Dot Williams ac Andrea Rowe i dreulio pedair blynedd yn targedu ymdrechion digynsail i helpu'r fritheg frown.

Ffocws y gwaith yw 515 hectar o dir wedi’i ganoli o amgylch Old Castle Down – tir comin sy’n eiddo i Ddugaeth Caerhirfryn ac sy’n annwyl i gerddwyr cŵn a picnicware lleol, a llain gyfagos o dir preifat.

Y llynedd, anogodd y tîm aelodau o’r gymdeithas cominwyr leol i bori eu gwartheg Galloway rhesog eto ar y safle, am y tro cyntaf ers mwy na hanner canrif, er mwyn helpu i gynnal y cynefin ac i atal y rhedyn rhag trechu gormod. Mae'r chwe gwartheg eisoes yn torri’r llystyfiant sy’n tyfu’n gyflym ac yn creu mwy o olau i’r fioledau bychain dyfu, ac mae’r elusen yn gobeithio y bydd y cominwyr yn dod â mwy o anifeiliaid i’r safle.

Mae Cadwraeth Gloÿnnod Byw hefyd wedi contractio Cyngor Bro Morgannwg i ddefnyddio peiriant torri gwair robotig maint beic cwad a reolir o bell i dorri llwybrau llydan trwy 15 hectar o redyn trwchus heb lawer o amrywiaeth.

Mae torri gwair, ynghyd â phrysgoedio a rheoli prysgwydd, yn creu mwy o le i fioledau ond hefyd yn annog y gwartheg i fentro i'r prysgwydd a dechrau pori o'r tu fewn i’r tu allan.

Mae’r gwaith yn fuddiol i rywogaethau eraill fel gwiberod, a fydd â mwy o le i dorheulo, ac mae Cadwraeth Glöynnod Byw yn gweithio’n agos gyda Chadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid.

Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys mapio’n ddigidol achosion o weld y fritheg frown am y tro cyntaf, a fydd yn darparu data hanfodol i ganiatáu mwy o waith wedi’i dargedu.

Mae’r tîm yn codi ymwybyddiaeth drwy osod arwyddion mynegbyst o amgylch y comin, y maent yn gobeithio eu huwchraddio i fynegbyst ‘siarad’ maes o law, ac maent yn arwain teithiau cerdded llesiant wedi’u tywys, sy’n ceisio helpu pobl leol i deimlo fwy o gysylltiad â bywyd gwyllt yr ardal.

Ond mae Alan Sumnall yn ein rhybuddio y bydd llwyddiant y prosiect pedair blynedd yn dibynnu ar bobl leol yn cynnal y cynefin newydd sy'n cael ei greu gan y peiriannau brefu a thorri gwair.

Dywedodd: “Ein pryder mawr, mawr gyda’r prosiect cyfan hwn yw etifeddiaeth – beth a ddaw ar ôl y gwaith hwn. Mae gennym wirfoddolwyr gwych ond mae llawer ohonynt wedi bod yn gwneud hyn ers blynyddoedd ac mae angen inni gael mwy o wirfoddolwyr i barhau â'u gwaith gwych.

“Rydym hefyd wir eisiau gweithio gyda mwy o dirfeddianwyr yn yr ardal hon fel y gallwn ddechrau ehangu cynefin y fritheg frown ymhellach ar draws y rhanbarth cyfan hwn. Rydym yn apelio ar bob tirfeddiannwr lleol sy’n caru byd natur i gysylltu, fel y gallwn sicrhau dyfodol y glöynnod byw hardd hyn a llawer o rywogaethau gwych eraill."

Dysgwch fwy am y prosiect a sut i gymryd rhan yn butterfly-conservation.org/in-your-area/welsh-office/natur-am-byth-high-brown-fritillary-vale-of-glamorgan

I holi ynglŷn gwirfoddoli, e-bostiwch Andrea ar arowe@butterfly-conservation.org

 

Previous
Previous

Support available for those affected by suicide and bereavement

Next
Next

Conservationists, cattle and a remote-controlled mower are helping to save one of Wales's most endangered animals