Cardiff Capital Region Skills Partnership Workshop – Young Persons Guarantee
The Cardiff Capital Region Skills Partnership invites you to attend a virtual workshop on Wednesday 4th May at 2-3pm to discuss the Young Persons Guarantee recently launched by Welsh Government.
The Young Persons Guarantee aims to give everyone under 25 the offer of support into work, education, training, or self-employment. The guarantee was set to ensure no lost generation across Wales due to the predicted economic downturn and the huge rise in unemployment as a result of the Covid-19 pandemic and Brexit.
The objective of the workshop is to:
Communicate the broad aims and objectives of the Young Persons Guarantee
Review the current provision available to young people aged under 25 and discuss if processes could be strengthened across the region to support those furthest from the labour market
Develop an understanding of how the current provision benefits different groups within society and what may need to change
The workshop is for voluntary organisations that work with and support young people in the Cardiff Capital Region. The Cardiff Capital Region is made up of the 10 local authority areas that cover South East Wales – Blaenau Gwent, Bridgend, Caerphilly, Cardiff, Merthyr Tydfil, Monmouthshire, Newport, Rhondda Cynon Taf, Torfaen and the Vale of Glamorgan.
Gweithdy Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – Gwarant i Bobl Ifanc
Mae Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn eich gwahodd chi i rith-weithdy ar ddydd Mercher 4 Mai rhwng 2 a 3pm i drafod y Warant i Bobl Ifanc a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.
Nod y Warant i Bobl Ifanc yw cynnig cymorth i mewn i waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed. Gosodwyd y warant er mwyn sicrhau na fydd yna genhedlaeth goll yng Nghymru yn sgil y dirywiad economaidd a ragwelir a’r cynnydd enfawr mewn diweithdra o ganlyniad i bandemig Covid-19 a Brexit.
Nod y gweithdy yw:
Cyfathrebu nodau ac amcanion eang y Warant i Bobl Ifanc
Adolygu’r ddarpariaeth gyfredol sydd ar gael i bobl ifanc o dan 25 oed a thrafod a ellid cryfhau prosesau ledled yr ardal i gynorthwyo’r rheini sydd bellaf o’r farchnad lafur
Datblygu dealltwriaeth o sut mae’r ddarpariaeth gyfredol o fudd i wahanol grwpiau o fewn cymdeithas a beth allai fod angen ei newid
Mae’r gweithdy i fudiadau gwirfoddol sy’n gweithio gyda phobl ifanc Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yn eu cynorthwyo. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys y 10 ardal awdurdod lleol sy’n gwasanaethu De-ddwyrain Cymru – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.
Cofrestrwch yn https://www.eventbrite.co.uk/e/cardiff-capital-region-skills-partnership-workshopyoung-persons-guarantee-tickets-316602846637